Rhif y ddeiseb: P-05-933

Teitl y ddeiseb: Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i wahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffeiriau.

Mae pysgod aur yn dal i gael eu rhoi i ffwrdd fel gwobrau mewn ffeiriau ar hyd a lled y wlad. Maent yn greaduriaid cymhleth a all fyw am hyd at 25+ mlynedd a thyfu rhwng 25-45cm. Cânt eu cadw mewn amodau gwael a'u rhoi i bobl sy'n ennill ar fympwy, ac oherwydd hyn maent ond yn byw am ychydig fisoedd fel arfer. Mae hwn yn draddodiad hynafol a, thrwy addysg ddiweddar, rydym wedi dod i sylweddoli ei fod yn anfoesol.


1.        Cefndir

Rhwng 2014 a 2018, cafodd yr RSPCA wybod am 24 o achosion pan gafodd anifeiliaid byw eu rhoi’n wobrau yng Nghymru. Pysgod aur a gafodd eu rhoi’n wobrau mewn ffeiriau oedd 60% o’r achosion hyn.

Mae’r galw i wahardd yr arfer o roi pysgod aur yn wobrau mewn ffeiriau ar sail lles anifeiliaid wedi cynyddu’n ddiweddar. Fodd bynnag, mae’r rhai sydd o blaid rhoi pysgod aur yn wobrau mewn ffeiriau yn dweud bod hynny’n draddodiad mewn ffeiriau a bod rheolau’n cael eu rhoi i sicrhau bod y pysgod yn cael gofal.

Mae'r Deddf Lles Anifeiliaid 2006 ('Deddf 2006') yn cynnwys gofyniad cyffredinol i berchnogion / ceidwaid anifeiliaid ddiwallu anghenion yr anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n rhoi neu'n derbyn anifeiliaid anwes fel gwobrau. O dan Adran 11 o Ddeddf 2006 mae'n drosedd rhoi anifail yn wobr i unrhyw un o dan 16 oed, oni bai fod rhywun dros 16 oed gyda nhw, neu oni bai fod y wobr yn cael ei roi yng nghyd-destun teulu.

Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru (Casnewydd, Caerffili a Wrecsam) wedi gwahardd yr arfer o roi anifeiliaid anwes yn wobrau ar dir sy'n eiddo i'r awdurdod lleol.

Yn yr Alban, mae’n drosedd, o dan Adran 31 o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006, rhoi anifail yn wobr i unrhyw un, waeth beth yw ei oed, (ac eithrio achosion pan gaiff ei roi yng nghyd-destun teulu).

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru:

Mewn llythyr at y Pwyllogr Deisebau (Rhagfyr 2019), esboniodd Gweinidog yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ('y Gweinidog') y camau y mae wedi'u cymryd yn y cyswllt hwn. Dywedodd iddi ysgrifennu at Showmen’s Guild, sef corff ymbarél sy’n cynnwys pobl sy’n gweithio mewn ffeiriau, i ddarganfod mwy am eu hymdrechion i hunanreoleiddio ac i gael gwybod pa mor gyffredin yw’r arfer hwn. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn aros am ymateb cyn cynnig cyngor ynghylch unrhyw system ddiogelu.

Ar 29 Awst 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch Rheoliadau drafft a fyddai'n cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer Arddangos Anifeiliaid; Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid) (Cymru) 2020. Mae’r datganiad ysgrifenedig cysylltiedig yn dweud y bydd y cynllun trwyddedu’n caniatáu i swyddogion ‘wneud gwiriadau i sicrhau bod safonau da o les yn cael eu cynnal lle mae anifeiliaid yn cael eu cadw, wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod arddangosfeydd'. Yn ei llythyr at y Pwyllgor Deisebau, mae’r Gweinidog yn dweud y canlynol:

Os cyflwynir y cynllun trwyddedu, caiff awdurdodau lleol eu hannog i gymryd agwedd ymarferol wrth benderfynu a ddylid trwyddedu gweithgaredd. Gan ddibynnu ar y meini prawf trwyddedu terfynol ac amgylchiadau unigol, gall hyn gynnwys arddangos pysgod aur er mwyn eu rhoi’n wobrau.

Yn ystod trafodaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) ar y Bil Anifeiliaid a Syrcasau Gwyllt ym mis Hydref 2019, dywedodd y Gweinidog y canlynol [ychwanegwyd y pwyslais]:

[…] Roeddwn yn meddwl tybed a allai [rhoi anifeiliaid anwes yn wobrau] ddod o dan y rheoliadau arddangosfeydd anifeiliaid y byddwn, gobeithio, yn eu cyflwyno’r flwyddyn nesaf, ond na, ni allai. Felly, bydd yn ddarn o waith ar wahân. 

Ar 20 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch trwyddedu arddangosfeydd.  Dywedodd rhai ymatebwyr y dylai’r arfer o ‘roi anifeiliaid anwes yn wobrau' fod yn weithgraedd y dylid ei drwyddedu o dan y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy ddweud:

Byddwn yn ystyried yr awgrymiadau a wnaed gan ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn unol â bwriad y polisi i benderfynu a oes angen unrhyw newidiadau, neu os oes pryderon, a fyddai'n fwy priodol eu hystyried o dan wahanol feysydd polisi.

3.     Camau a gymerwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ystod gwaith Pwyllgor CCERA ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau  ym mis Hydref 2019, cyfeiriodd Neil Hamilton AC a Joyce Watson AC at yr arfer o roi pysgod aur yn wobrau. Dywedodd Neil Hamilton:

Rwy'n credu bod ystyriaethau sylweddol, mewn gwirionedd, o ran lles anifeiliaid mewn perthynas â gwerthu pysgod aur mewn ffeiriau ac ati a hynny, yn y bôn, oherwydd nad oes gan y bobl sy'n eu prynu unrhyw syniad sut i ofalu amdanynt, ac mae'n debyg bod o leiaf 90 y cant ohonynt yn marw mewn fawr o dro.  Felly, oni ddylem, mewn gwirionedd, fod yn ystyried materion lle mae ystyriaethau lles anifeiliaid go iawn, yn hytrach na Bil sydd â chwmpas mor gyfyng â hwn, sy'n effeithio ar gyn lleied o anifeiliaid ac sy’n seiliedig ar feini prawf goddrychol?

Dywedodd y Gweinidog:

… Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y mater [rhoi pysgod aur yn wobrau], ond mae rhywun wedi gofyn yn benodol i mi a allwn i wneud hynny o fewn y Bil hwn; mae’n amlwg na allaf. […] Rwy'n cytuno â chi fod angen inni edrych ar yr arfer o roi pysgod aur yn wobrau, oherwydd, yn sicr, os ydych chi'n meddwl am hirhoedledd, [...] mae pethau wedi newid, ac mae barn y cyhoedd wedi newid yn y cyswllt hwn. 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd wedi’i  chynnwys yn y papur hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.